3/2/2018 Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 01/03/2018 i'w hateb ar 06/03/2018 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
01/03/2018 i'w hateb ar 06/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Llyr Gruffydd Gogledd Cymru
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben?
Neil Hamilton Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru?
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America?
David J. Rowlands Dwyrain De Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru?
Mike Hedges Dwyrain Abertawe
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion yng Nghymru fel gyrwyr economaidd?
Sian Gwenllian Arfon
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol?
Hefin David Caerffili
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ar ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
http://cofnod.cynulliad.cymru/OrderPaper/OralQuestions/06-03-2018/ 1/2 3/2/2018 Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 01/03/2018 i'w hateb ar 06/03/2018 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
David Rees Aberafan
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru?
Suzy Davies Gorllewin De Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella mynediad ar gyfer pobl anabl yng Nghymru?
Nick Ramsay Mynwy
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith sy'n atal gwarchodwyr plant rhag cael arian am ofalu am berthnasau?
Vikki Howells Cwm Cynon
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella perfformiad economaidd yn y cymoedd gogleddol yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
John Griffiths Dwyrain Casnewydd
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd?
Mandy Jones Gogledd Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru?
Bethan Sayed Gorllewin De Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i bobl sydd wedi colli pensiynau o ganlyniad i gau cwmnïau?
http://cofnod.cynulliad.cymru/OrderPaper/OralQuestions/06-03-2018/ 2/2